'Mae'r Beibl o'n tu'
ebook ∣ Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) · Y Meddwl A'r Dychymyg Cymreig
By Gareth Evans-Jones
Sign up to save your library
With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.
Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Search for a digital library with this title
Title found at these libraries:
Library Name | Distance |
---|---|
Loading... |
Hon yw'r astudiaeth gyntaf mewn unrhyw iaith sy'n archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i gaethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838–68, sef oes aur y wasg gyfnodol Gymraeg yno. Gan ddefnyddio'r wasg gyfnodol fel sail, cyflwynir trafodaeth wreiddiol am y modd y syniai'r Cymry Americanaidd am gaethwasiaeth, un o faterion mwyaf dyrys eu gwlad fabwysiedig, a hynny yng nghyd-destun disgwrs Feiblaidd. Asesir y modd y gwnaeth syniadaeth grefyddol a chyfeiriadaeth Feiblaidd dreiddio'r erthyglau, yr ysgrifau, y darnau o farddoniaeth a'r rhyddiaith greadigol a gyhoeddwyd yng nghyfnodolion Cymraeg yr Unol Daleithiau, gan gynnig mewnwelediad unigryw i'r farn gyhoeddus Gymraeg a Chymreig-Americanaidd am gaethwasiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylanwadodd adnabyddiaeth y Cymry Americanaidd â'r Beibl yn ddwys ar eu meddwl, eu dychymyg a'u gweithgarwch o ddydd i ddydd, ac yn y gyfrol hon bwrir goleuni o'r newydd ar baradocs gwlad a goleddai gaethwasiaeth tra yn ymfalchïo yn ei rhyddid.