Y Dychymyg Ôl-Fodern

ebook Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan

By Rhiannon Marks

cover image of Y Dychymyg Ôl-Fodern

Sign up to save your library

With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.

   Not today

Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Download Libby on the App Store Download Libby on Google Play

Search for a digital library with this title

Title found at these libraries:

Library Name Distance
Loading...

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw'r astudiaeth estynedig gyntaf o'i waith, a rhoddir sylw penodol i'r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i'r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i'r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a'i harwyddocâd i'n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio'r ffin dybiedig rhwng 'ffaith' a 'ffuglen'. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.

Y Dychymyg Ôl-Fodern