Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen'

ebook Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990 · Y Meddwl A'r Dychymyg Cymreig

By Lisa Sheppard

cover image of Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen'

Sign up to save your library

With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.

   Not today

Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Download Libby on the App Store Download Libby on Google Play

Search for a digital library with this title

Title found at these libraries:

Library Name Distance
Loading...

Dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae'n astudiaeth gymharol sy'n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae'n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am 'aralledd' – term sy'n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i'r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd â themâu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma'r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol – cymdeithas lle y mae'r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir â seilio hunaniaeth Gymreig ar allu'r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae'r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.

Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen'