Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

ebook

By Noel A. Davies

cover image of Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Sign up to save your library

With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.

   Not today

Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Download Libby on the App Store Download Libby on Google Play

Search for a digital library with this title

Title found at these libraries:

Library Name Distance
Loading...

Dyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i'r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau'r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau'r Credo, 'Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear'? Ac a fedrant goleddu'r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy'r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu'r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid 'yr atheistiaeth newydd' yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o'r naill yn cyfoethogi'n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i'n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy'n tarddu yn ei fwriad a'i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy'n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth