Sign up to save your library
With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.
Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Search for a digital library with this title
Title found at these libraries:
Library Name | Distance |
---|---|
Loading... |
Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themâu yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.