Sign up to save your library
With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.
Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Search for a digital library with this title
Title found at these libraries:
Library Name | Distance |
---|---|
Loading... |
(Ebook version of the Welsh historical romance Rheinallt ap Gruffydd by Isaac Foulkes)
"Un ymhen un; dyn dwy lath ymhen dyn dwy lath, ac mi a ymladdaf hyd y diferyn olaf o waed sydd yn fy nghalon!"
Sir y Fflint, y 1460au. Mae Ynys Prydain ar ganol Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae'r Cymry sy'n croesi'r ffin i Loegr yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd yno, ac yn dioddef gormes cyfreithiau mympwyol a chreulon. Pan gaiff y bardd adnabyddus Lewys Glyn Cothi ei gosbi am briodi Saesnes, mae'n gofyn cymorth gan yr uchelwr o Gymro, Rheinallt ap Gruffydd: marchog ac arwr.
Roedd Isaac Foulkes (1836-1904) yn un o wŷr llenyddol gweithgar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Gymraeg: ef oedd sefydlydd a golygydd y Cymro, cofiannydd Ceiriog a Daniel Owen, a cyhoeddwr nifer fawr o lyfrau.
Roedd hefyd yn nofelydd, ac mae Rheinallt ap Gruffydd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1874, yn un o'r enghreifftiau cynharaf yn y Gymraeg o Ramant Hanesyddol; genre fyddai'n dod yn boblogaidd iawn ymhlith nofelwyr yr oes.