O Law i Law (eLyfr)

ebook

By T. Rowland Hughes

cover image of O Law i Law (eLyfr)

Sign up to save your library

With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.

   Not today

Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Download Libby on the App Store Download Libby on Google Play

Search for a digital library with this title

Title found at these libraries:

Library Name Distance
Loading...

(New ebook edition of T. Rowland Hughes's classic Welsh language novel O Law i Law)

"Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma'r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F'ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai'r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau'r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed."

Wedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu tŷ, drwy werthu eu heiddo 'o law i law' i'w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae'n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a'i fagwraeth, ei berthynas gyda'i rieni a'i ewythr, a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni.

Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu'r llyfr a'r nofelau a'i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i'w hawdur na phrofasai'r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw'r tawelaf a'r mwynaf o'i nofelau, a'r un sy'n dwyn y mwyaf o'i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.

O Law i Law (eLyfr)