Trawsffurfio'r Seintiau

ebook Llawysgrif Yale o Fucheddau'r Saint

By David Callander

cover image of Trawsffurfio'r Seintiau

Sign up to save your library

With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.

   Not today

Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

Download Libby on the App Store Download Libby on Google Play

Search for a digital library with this title

Title found at these libraries:

Library Name Distance
Loading...

Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i'r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 – llawysgrif modern cynnar sy'n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar â'r ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a'i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae'r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a'r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i'w fywyd, ei weithgarwch a'i ddiddordebau eang.

Trawsffurfio'r Seintiau